Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Senedd and Elections (Wales) Bill

CLA(5) SE25

Ymateb gan unigolyn

Evidence from individual

Rwy'n cysylltu ynghylch bwriad y Llywydd i ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol, a'r tro pedol ar yr ymrwymiad blaenorol i alw'r sefydliad yn 'Senedd' ym mhob iaith.

Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'Senedd' eisoes, yn y ddwy iaith. Prin fod y term "Welsh Parliament" yn cael ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd, a byddai ei gyflwyno nawr fel rhyw enw 'lled-swyddogol' yn gam yn ôl ac yn creu dryswch. Daw pawb i ddeall Senedd yn fuan iawn os mai dyma fydd yr unig enw.

Os yw'r Gymraeg yn perthyn i bawb, fel y dywedir yn aml, dyma gyfle gwych i'n corff democrataidd cenedlaethol ddangos hynny, drwy roi'r gair yma i bawb ei ddefnyddio.

Croesawyd y cyhoeddiad i ddefnyddio 'Senedd' yn y ddwy iaith gan nifer o grwpiau, sefydliadau, Aelodau'r Senedd ac unigolion. Mae'n cynnig un enw ac un logo syml y gall pawb ei ddefnyddio. Mae nifer o bobl ddi-Gymraeg wedi dweud eu bod yn teimlo bod y dadleuon dros gyflwyno ail enw yn Saesneg yn nawddoglyd tuag at bobl ddi-Gymraeg.

Dyma gyfle i gael hyn yn iawn ac i wneud penderfyniad y gall pobl edrych yn ôl arno gyda balchder. Dylai enw ein corff democrataidd cenedlaethol, ein Senedd, atseinio cystal â’n hanthem genedlaethol.

Rwy’n mawr obeithio eich bod yn cytuno, ac y byddwch yn diwygio’r Bil er mwyn sicrhau bod enw a logo uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol.

I’m writing regarding the Llywydd's intention to rename the National Assembly, and the u-turn on the previous commitment to call the institution 'Senedd' in all languages.

Many refer to the institution as the 'Senedd' already, in both languages. The term "Welsh Parliament" is barely used at all at the moment, introducing it now as some kind of de facto official name would be a step backwards and create confusion. Everyone will come to understand ‘Senedd’ very soon if that it is the only name.

If the Welsh language belongs to everyone, as is said often, this is a great opportunity for our national democratic body to demonstrate that, by giving this name for everyone to use.

The announcement to use the name 'Senedd' in both languages was welcomed by a number of groups, institutions, Members of the Senedd and individuals. It offers one simple name and logo everyone can use. A number of people who don’t speak Welsh have said they feel that the arguments for introducing a second, English name are patronising to non-Welsh speakers.

This is a chance to get this right and to make a decision that people can look back on with pride. The name of our national democratic body, our Senedd, should chime as well as our national anthem.

I very much hope that you agree, and that you will amend the Bill to ensure that there will be a single Welsh name and logo for our national seat of democracy